fbpx
Wales Airshow 6 & 7 July 2024
Find out more

Martyn Brabbins arweinydd

Liya Petrova   ffidil

Grace Williams Elegy for Strings, Concerto i’r Ffidil, Symffoni Rhif 2

Mae Grace Williams yn rhoi cipolwg cynnar ar y gerddoriaeth hynod neilltuol y byddai hi’n ei chyfansoddi yn nes ymlaen yn ei bywyd gyda darn agoriadol cyngerdd heno, ei cherddoriaeth i’r llinynnau, yr Elegy. O’r Praeludium dramatig i’r Adagio synfyfyriol, mae Concerto Nielsen i’r Ffidil yn daith gyffrous drwy harmoni, ystum a naws, ac mae’n bleser gennym groesawu enillydd Cystadleuaeth Ffidil Nielsen 2016, y fiolinydd medrus o Fwlgaria, Liya Petrova, fel unawdydd.

Mae Ail Symffoni Rachmaninov yn un o’i weithiau enwocaf, ac nid yw’n fawr o syndod pam! Disgleirdeb deinamig, gorfoledd persain a harddwch hudolus sydd yn y darn hynod emosiynol hwn o gerddoriaeth. I arwain, rydym yn estyn croeso yn ôl i un o ffefrynnau BBC NOW, Martyn Brabbins.

Tocynnau £12.00 – £20.00

Date
08 Mar 2024
Venue
Brangwyn Hall
Price
12.00