fbpx
Swansea International Jazz Festival 2024
13 - 17 June

Mae Mela Indiaidd Abertawe’n ddigwyddiad cymunedol blynyddol sy’n arddangos diwylliant ac amrywiaeth cyffrous y gymuned Indiaidd yn Abertawe ac yng Nghymru.

Mae’r sefydliad elusennol, Indian Society of Southwest Wales, wedi bod yn trefnu Mela Indiaidd Abertawe hwn bob dwy flynedd yn Neuadd Brangwyn Abertawe.

Mae croeso i chi ddod i gefnogi ac i fwynhau amrywiaeth o ddigwyddiadau adloniant, sy’n amrywio o ddawnswyr profiadol i berfformiadau gan blant. Dewch i flasu’r amrywiaeth hyfryd o fwydydd Indiaidd sydd ar werth, gan gynnwys bwyd stryd llysieuol ac anllysieuol. Dewch i weithdai amrywiol sy’n gysylltiedig â diwylliant a thraddodiadau Indiaidd. Gallwch ddysgu rhai o ystumiau sylfaenol ioga neu fwynhau addurno’ch dwylo drwy eu lliwio â henna.

11:00am i 5:00pm

Pris tocyn: £4 y tocyn. Mynediad am ddim i blant dan 5 oed. Gellir rhagarchebu tocyn ar gyfer y digwyddiad o’n gwefan: https://www.indiansociety.co.uk

 

Gweld digwyddiadau eraill yn Neuadd Brangwyn yma

 

Date
11 May 2024
Venue
Neuadd Brangwyn
Price
4.00