Yn seiliedig ar y llyfr gan Rachel Bright a Jim Field Addaswyd a chyfarwyddwyd gan Sarah Punshon Cerddoriaeth a geiriau gan Eamonn O’Dwyer
Mae Nicoll Entertainment yn cyflwyno cynhyrchiad Rose Theatre, Curve, MAST Mayflower Studios, ac Unicorn Theatre.
Stori dwymgalon am hyder, hunan-barch a llygoden fach swil sy’n mynd ar daith i ddod o hyd i’w rhu.
Un tro roedd paith a hwnnw’n baith poeth ac arno roedd craig fawr arw a noeth Ac o dan y graig fawr o olwg y byd roedd llygoden fach glên yn byw’n ddigon clyd
Mae’r llygoden fach, sydd wedi cael llond bola o gael ei hanwybyddu a’i hanghofio gan yr anifeiliaid eraill, yn dymuno ei bod yn gallu rhuo fel llew. Ond, fel y mae’n darganfod, mae hyd yn oed y bobl fwyaf a mwyaf awdurdodus yn ofnus weithiau….a gall hyd yn oed y lleiaf ohonom ruo fel llew a bod yn ddewr!
Mae’r addasiad llwyfan newydd sbon hwn, sy’n seiliedig ar y stori boblogaidd gan Rachel Bright a Jim Field, wedi’i chyfarwyddo gan Sarah Punshon (The Jungle Book), gyda cherddoriaeth a geiriau gan Eamonn O’Dwyer (Brief Encounter).
Arweiniad oed: Yn fwyaf addas i blant 3+ oed ond mae croeso i bob oedran.