fbpx
Swansea International Jazz Festival 2024
13 - 17 June

Mae Lowri Evans nôl gyda EP newydd Cymraeg, “Beth am y Gwir?”, ar ôl treulio’r blynyddoedd diwethaf yn cyd-weithio gyda Tom McRae ar eu halbwm yn 2021 a gyda Sera ar yr albwm Tapestri yn 2023.

Mae’r EP yn ymdrin â phynciau sydd yn agos iawn at galon Lowri – o drafod ei mam a sut mae perthynas rhwng y ddwy yn esblygu dros amser, y sefyllfa ail gartrefi yn ei thref enedigol, i ddim sefyll yn llonydd a chymryd cyfleoedd a ddaw.

Wedi’i disgrifio gan Bob Harris o BBC Radio 2 fel “un o’i hoff artistiaid”, mae Lowri wedi’i bendithio â llais sy’n llawn o bŵer emosiynol eang, gyda’i chaneuon yn cymryd eu lliwiau cerddorol o balet eang sy’n cynnwys Americana, Gwerin, Gwlad a Blŵs. Mae wedi teithio o amgylch yr UDA ac Ewrop, wedi cael ei chynnwys ar restrau chwarae radio’r BBC, ac wedi perfformio mewn gwyliau fel Cambridge Folk, Underneath the Stars, Celtic Connections, Sesiwn Fawr Dolgellau, Gŵyl y Dyn Gwyrdd, a Gŵyl y Gelli.

Fe fydd Lowri ar daith ym mis Ebrill a Mai ac yn perfformio gyda’i thriawd.

 

Archebwch Docynnau

Date
12 Apr 2024
Venue
Tŷ Tawe
Price
5.27