Ymunwch â ni ar gyfer y deyrnged orau i’r traciau sain gorau erioed!
Mae A Night At The Movies – The Soundtrack Of Your Life yn gyngerdd fyw anhygoel sy’n cynnwys caneuon poblogaidd o’ch hoff ffilmiau gan gynnwys Back To The Future, Top Gun, The Greatest Showman, Moulin Rouge, Dirty Dancing a llawer mwy.
Bydd ein cerddorion a’n cantorion arbennig yn eich helpu i hel atgofion wrth iddynt ddod â’r gerddoriaeth sydd wedi gwneud i genedlaethau chwerthin, crio a bloeddio yn fyw.
O themâu arwrol Bond i alawon torcalonnus eich hoff ffilmiau comedi rhamantus, bydd y noson fythgofiadwy hon yn siŵr o wneud i chi ganu yn hir ar ôl i’r gyngerdd orffen.
Prynwch eich tocynnau nawr a pharatowch i ail-fyw trac sain eich bywyd.