fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 May

Mae treiathlon IRONMAN 70.3 cychwynnol Abertawe’n dod i Abertawe a Phenrhyn Gŵyr. Mae’r digwyddiad yn cynnwys nofio am 1.2 milltir, beicio am 56 milltir a rhedeg am 13.1 milltir a bydd 2,000 o bobl yn cystadlu.

Er mwyn hwyluso’r digwyddiad hwn yn ddiogel bydd nifer o drefniadau cau ffyrdd, dargyfeiriadau traffig a chyfyngiadau parcio dros dro ar waith yn yr ardal, i sicrhau diogelwch athletwyr a’r cyhoedd.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â threfnwyr y digwyddiad:

Cyfeiriwch at y mapiau a ddarperir am ragor o wybodaeth

Sylwer

  • GALL cerddwyr groesi’r cwrs ar unrhyw adeg os yw’n ddiogel gwneud hynny.
  • Cynhelir mynediad i gerbydau brys ar bob adeg
  • Bydd mynediad hanfodol ar gyfer gofalwyr yn cael ei hwyluso, cysylltwch a swansea70.3@ironmanroadaccess.com , rydym yn gofyn I chi drefnu hyn ymlaen llaw cyn 10 Gorffenaf er mwyn lleihau oedi.
  • Bydd cyfyngiadau parcio ar waith ar y cyrsiau beicio a rhedeg, gyda system halio cerbydau ar waith

Ar ol y nofio yn Noc Tywysog Cymru bydd yr athletwyr yn rhedeg dros y Bont Hwylio u drosglwuddo. Byddant yn cychwyn y cwrs beicio o faes parcio Heol East Burrows, gan deithio i Somerset Place a thua’r gorllewin ar Heol Ystumllwynarth (A4067). Bydd un ochr i’r Bont Hwylio ar agor i gerddwyr ar fore’r ras.

Bydd y beiciau’n parhau ar hyd y bae drwy’r Mwmbwls, o amglych rhannauo Gwyr cyn dychwelyd i faes parcio East Burrows ar hyd Heol Ysumllwynarth. Mae’r cwrs rhedeg 2 lap, yn gadael maes parcio East Burrows ac yn defnyddio Llwybr Beicio Bae Abertawe/y promenad i lawr i Lon Lilliput/Canolfan TA. Wrth ddychwelyd byddant yn defnyddio’r llwybr beicio cyn ymuno a Heol Ystumllwynarth trwy Faes Parcio Lon Sgeti i Barc yr Amgueddfa ar ol eu hail lap. Bydd y llwybr beicio ar gau o Lon Lilliput i Abertawe, bydd mynediad i gerddwyr yn cael ei gynnal drwyddi draw.

Cau ffyrdd – Dydd Sul 14 Gorffennaf 2024

Mesydd Parcio

  • 6am – 5pm: Maes Parcio Blaendraeth Lon Sgeti, Maes Parcio Blaendraeth San Helen ar gau
  • Maes parcio East Burrows ar gau Dydd Mercher 8am – dydd Llyn 6pm.

Cwrs Canol y Dinas a Heol Ystumllwynarth

  • Somerset Place ar gau i geir dydd Sadwrn rhwng 7am – 6pm, dydd Sul rhwng 4am – 6pm.
  • Bydd Burrows Place a Stryd Adelaide r gau i geir rhwng 4am – 8pm
  • Bydd ochr ddeheuol Fordd Ystumllwynarth (tau’r Gorllewin) ar gau rhwng 6am – 5pm.
  • Bydd ceir yn gallu teithio tua’r Dwyrain ar Heol Ystumllwynarth fel arfer drwy gydol y dydd.
  • Mae dau fan croesi cerbydau a reolir ar Heol Ystumllwynarth. Defnyddiwch y lleoliadau croesi cerbydau dynodedig er mwyn sirchau eich bod yn croesi mor gyflym a phosibl.
  • Stryd  Morgannwg, Heol Ystumllwynarth, a chroesi’r ffordd ar gau i mewn i Dunvant Place
  • Gadewch allan o’r Chwarter Morwol, defnyddiwch y man croesi heibio’r Ganolfan Ddinesig a throwch i’r dde i Ffordd Ystumllwynarth.
  • Efallai y bydd oedi ar y croesfannau hyn ar adegau prysur
  • Bydd Mynediad i Gerddwyr i Draeth Abertawe, Lido Blackpill, Y Parc Sglefrio, Golff Troed Abertawe, The Secret Beach Bar and Kitchen yn cael ei gynnal fel arfer.
  • Bydd y cwrs rhedeg yn brysur 11am – 4pm felly cofiwch hyn wrth gyrchu’r traeth a’r ardal gfyagos.

Ffordd y Brenin

  • Bydd rhwng y Bont Hwylio a Maes Parcio Adeilad y Fforwm ar gau 4am – 10am dydd Sul er diogelwch cerddwyr.

Y Mwmbwls: 6am – 10am

  • Bydd Heol y Mwmbwls ar gau tua’r de DIM OND hyd at Lon y Pentref rhyng 6am – 10am
  • Bydd ceir yn gallu teithio tuar’ Gogledd o Village Lane (tuag at Abertawe) yn ystod cyfnod y cau.
  • CYNGOR MYNEDIAD: Bydd gwyriad unffordd i drigolion sydd angen mynediad.
  • Bydd modd i drigolion deithio tua’r gorllewin ar y B4436, i’r chwith i Heol Murton Green, yna tua’r dwyrain ar Heol Mansfield, Lon Murton a Heol Newton

Newton (B4593), Llandeilo Ferwallt: 6.30am – 10.30am

  • Yna bydd y cwrs yn dilyn Lon Plunch a Lon Uwch cyn troi i’r chwith i’r Lon tua’r B4953/Heol Caswell trwy Newton yn pasio Traeth Bae Caswell
  • Yn Dilyn Heol Caswell i’r Gogledd, gan droi i’r chwitch i Heol y Pil/Heol Llandeilo Ferwallt ac i’r chwith i Heol Pennard B4436
  • Bydd y ffyrdd uchod wedi’u cau yn llwyr rhwng 6.30am – 10.30am

Kittle, Murton: 6.30am – 12.30pm, 12.30pm – 1.45pm

  • Mae’r cwrs yn parhau tua’r gorllewin ar hyd y B4436 i gyffordd Lon Vennaway. Mae gan y rhan hon o’r cwrs amrywiol gaeadau gan fod beiciau’n defnyddio’r ffyrdd hyn wrth fynd allan a dod i mewn
  • Bydd y B4436 o Murton Green i Gyffordd Lon Vennaway ar gau yn gyfan gwbl 6.30am – 12.30pm
  • Bydd yn agor tua’r gorllewin (tuag at Pennard) o 12.30pm ac yn agor yn llawn ar gyfer traffig i’r ddau gyfeiriad erbyn 1.45pm

Lon Vennaway: 6.30am – 1.30pm

  • Yn unol a’r uchod mae’r llwybr yn defnyddio Lon Vennaway i’r ddau gyfeiriad yn ystod y digwiddiad.
  • Bydd Lon Vennaway ar gau yn gyfan gwbl 6.30am – 12.30pm ac yna bydd yn agor ar gyfer traffig tua’r gogledd yn troi i’r chwith ac i’r dde ar Ffordd De Gwyr o 12.30pm
  • Bydd y ffordd yn hollol agored erbyn 1.30pm

Pennard, Southgate: 7.15am – 10.45am

  • Mae’r cwrs yn dilyn Heol Pennard trwy Kittle a Phennard cyn gwneud tro pedol yn Southgate y tu allan i Gaffi’r Tri Chlogwyn
  • Yna mae’r beiciau’n teithio yn ol trwy Bennard ac yn cymryd y chwith i Lon Vennaway
  • CYNGOR MYNEDIAD – Caniateir gadael o Southgate/Pennard tuag at Kittle tan 7.15am a chaniateir mynediad o Kittle i Southgate / Pennard ar ol 10.45am
  • Caniateir gadael tuag at Gila Uchaf ar ol 12.15pm

Melin y Parc, Penmaen, Nicholaston, Reynoldston: 7am – 12.30pm, 7am – 1pm

  • Mae’r cwrs yn dilyn yr A4118 trwy Felin y Parc, Penmaen, Nicholaston. Bydd yr A4118 ar gau hyd at gyffordd Reynoldston rhwng 7am – 12.30pm.
  • Yna mae’r cwrs yn teithio i’r Gogledd tuag at Reynoldston cyn troi i’r dwyrain i Cilibion a fydd ar gau yn gyfan gwbl rhwng 7am – 1pm

Llanrhidian, Penuel, Y Crwys: 7.30am – 11.30am, 7am – 12pm

  • O Cilibion mae’r cwrs yn teithio i Llanrhidian sydd ar gau 7.30am – 11.30am.
  • Yna mae’r llwybr yn teithio tua’r dwyrain drwy Penuel ac ymlaen at Y Crwys, cyn mynd tua’r de ar Heol Tirmynydd, bydd y rhan hon o’r cwrs ar gau yn gyfan gwbl rhwng 7.30am – 12pm

Cila Uchaf, Llangrove, Lunnon, Llanilltud Gwyr, Llethryd: 7.30am – 1pm, 7am – 1.30pm

  • Mae’r cwrs beicio yn cynnwys un dolen allanol fwy ac ail ddolen fewnol lai sy’n teithio drwy Llethryd ar y B4271 a fydd ar gau 7.30am – 1pm
  • Bydd Fordd De Gwyr A4118 o gyffordd Cila Uchaf i Lon Vennaway ar gau tua’r de 7am – 1.30pm
  • CYNGOR MYNEDIAD – Croesfan tua’r gogledd ar gael ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r gogledd ar Ffordd De Gwyr tuag at Gila Uchaf fel y dangosir ar y map ynghlwm

Comin Clyne, West Cross: 8.30am – 1.45pm

  • Bydd yr athletwyr yn gorffen y cwrs beicio trwy ddilyn y B4436 (Comin Clyne) tua’r dwyrain cyn troi i’r dde ar Heol Fairwood drwy West Cross.
  • Bydd y beiciau’n parhau i lawr y bryn ar Heol Fairwood ac yn troi i’r chwith i’r A4067 i ddychwelyd i Ganol Dinas Abertawe.
  • Bydd Comin Clyne o Heol Fairwood – Murton Green ar gau tua’r dwyrain o 8.30am – 1.45pm
  • Bydd Heol Fairwood ar gau tua’r dwyrain o 8.30am – 1.45pm
  • CYNGOR MYNEDIAD – Bydd mynediad i breswylwyr ar gael tua’r gogledd (i fyny’r bryn) ar Heol Fairwood drwy gydol y dydd, ynghyd a man croesi ar gyffordd Heol Fairwood / Heol Mayals ar gyfer ceir sy’n teithio tua’r gogledd tuag at Kittle